Ceisiadau ar Agor ar gyfer ein Rhaglenni 2022/23

Mae ceisiadau ar gyfer ein Rhaglen Ddatblygu a'n Rhaglen Iau ar agor tan 1 Gorffennaf 2022.
Ebrill 1, 2022

Mae'n bleser gennym gyhoeddi bod ceisiadau ar gyfer ein Rhaglenni 2022/23 bellach ar agor!

Mae ein rhaglenni'n cefnogi cerddorion ifanc dawnus o gefndiroedd incwm isel ledled y DU, gan ddarparu amrywiaeth o gyfleoedd datblygu unigryw i fagu hyder, datblygu sgiliau personol, a gwella eu profiad cerddorol.

Dan arweiniad cerddorion ac addysgwyr arbenigol, mae ein cyfleoedd yn cynnwys dosbarthiadau meistr o'r radd flaenaf, gweithdai ensemble ar draws nifer o arddulliau cerddorol, sesiynau mentora un i un, cyngherddau a chyfleoedd perfformio.


Ynghyd â chefnogaeth bwrpasol gan ein Tîm Perthnasoedd, rydym hefyd yn rhoi cymorth ariannol i'n cerddorion ifanc tuag at eu costau cerddorol. Gallai hyn fod ar gyfer gwersi, ffioedd arholiadau neu glyweliadau, cymryd rhan mewn dosbarthiadau a chyrsiau, prynu offerynnau, llogi, yswiriant, rhannau a thrwsio, technoleg cerddoriaeth ac offer arall.

I gael rhagor o wybodaeth am y gwahanol Raglenni a sut i wneud cais, cliciwch yma.

Noder mai'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 12pm ddydd Gwener 1 Gorffennaf 2022.

*      *      *