Diolch i haelioni a charedigrwydd llawer o gefnogwyr a ffrindiau gwych yr elusen, llwyddwyd i godi £41,320 yn ystod Her Nadolig Big Give eleni, ymgyrch ariannu gyfatebol fwyaf y DU.
Bydd yr arian yn cael ei roi tuag at gynyddu a gwella'r cyfleoedd a gynigiwn drwy ein rhaglen datblygu cerddorion ifanc, a thuag at gefnogi mwy o gerddorion ifanc yn y dyfodol. Rydym mor ddiolchgar i bawb a roddodd neu a gefnogodd yr ymgyrch drwy rannu'r newyddion, ein helpu ni i'n cyrraedd dros ein targed o £40,000. Diolch!